Mae trafodaethau i achub dêl niwclear Iran ar y “trywydd iawn”, yn ôl gweinidogion o’r wlad.

Daw sylw gweinidog tramor Iran, Mohammad Javad Zarif, yn sgil cyfarfod â phennaeth polisi tramor yr Undeb Ewropeaidd, Federica Mogherini.

Roedd y cyfarfod yma yn “dda iawn ac yn adeiladol” meddai Mohammad Javad Zarif, ac mae disgwyl trafodaethau pellach ddydd Mawrth (Mai 15).

Er bod yr Unol Daleithiau bellach wedi cefnu ar y ddêl – cytundeb oedd yn cyfyngu ar raglen niwclear Iran – mae’r Undeb Ewropeaidd yn awyddus i’w weld yn parhau.

Mae’r Arlywydd, Donald Trump, wedi datgan y bydd yn gosod sancsiynau llym ar Iran.