Mae Taoiseach Iwerddon wedi beirniadau ymgyrchwyr gwrth-erthyliad am ddefnyddio lluniau o blant â Syndrom Down mewn posteri ar gyfer y refferendwm yn y wlad.

“Dyw hyn ddim yn iawn oherwydd rydym wedi ei gwneud yn glir iawn yn y ddeddfwriaeth a gynigiwn na fydd anabledd yn sail dros ddiweddu beichiogrwydd,” meddai Leo Varadkar.

“Dw i’n meddwl bod hyn yn un o sawl ymgais gan yr ymgyrch Na i greu dryswch.”

Fe fydd etholwyr Iwerddon yn cael pleidleisio ar ddiddymu wythfed gwelliant cyfansoddiad y wlad – sy’n gwahardd erthylu – ar 25 Mai.

“Nid yw’r gwelliant wedi gwahardd erthylu mewn gwirionedd,” meddai Leo Varadkar.

“Mae naw neu ddeg o ferched yn teithio bob dydd i’r Deyrnas Unedig i ddiweddu eu beichiogrwydd ac mae merched yn prynu tabledi fwyfwy ar y rhyngrwyd ac yn eu cymryd gartref, sy’n sefyllfa eithaf peryglus.

“Dw i’n credu y dylem wynebu realiti erthylu a’i ddarparu yn ein gwlad ein hun ond gyda’r cyfyngiadau angenrheidiol.”