Mi fydd cyfarfod arall yn cael ei gynnal rhwng Gogledd a De Corea, a hynny ychydig wythnosau ar ôl yr uwchgynhadledd rhwng arweinwyr y ddwy wlad.
Yn ôl Gweinyddiaeth Uno De Corea, sydd o blaid uno’r ddwy wlad ar y penrhyn, bwriad y cyfarfod yfory yw trafod yr addewidion a gafodd eu gwneud rhwng y ddau arweinydd ar Ebrill 28.
Ymhlith y pynciau mae’r angen i leihau’r tensiynau ar y ffin, ynghyd ag ailuno teuluoedd a gafodd eu gwahanu yn ystod y rhyfel ddechrau’r 1950au.
Mae’n bosib y bydd yna drafodaeth hefyd am greu tîm unedig rhwng y ddwy wlad ar gyfer y Gêmau Asaidd ym mis Awst.
Trump nesa
Daw’r cyfarfod hwn bron fis union cyn y bydd uwchgynhadledd rhwng arweinydd y Gogledd, Kim Jong Un, ac Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump.
Nod yr uwchgynhadledd honno fydd ceisio darbwyllo Gogledd Corea i roi’r gorau i’w chynlluniau ar gyfer creu arfau niwclear.