Wrth i’r Unol Daleithiau ddathlu agor eu llysgenhadaeth newydd yn Jerwsalem, mae o leiaf 37 o Balesteiniaid wedi cael eu lladd gan filwyr Israel yn ystod protestiadau ar ffin Gaza.

Mae penderfyniad yr Arlywydd Donald Trump i symud y llysgenhadaeth o Tel Aviv, gan gydnabod Jerwsalem fel prifddinas Israel,  wedi corddi’r Palesteiniaid.

Roedd llanc 14 oed ymhlith y meirw, a chafodd dros 500 o bobol eu hanafu wrth i filwyr danio at y dorf.

Wrth drydar yn Washington, nid oedd Donald Trump wedi cyfeirio at y trais ond yn hytrach wedi annog pobol i wylio’r seremoni ar y teledu gan ddweud: “Diwrnod gwych i Israel!”.

Yn yr agoriad swyddogol dywedodd ysgrifennydd y trysorlys yr Unol Daleithiau Steve Mnuchin: “Mae’r arlywydd yn gwneud penderfyniadau anodd oherwydd mae’n credu mai dyma’r penderfyniadau cywir yn yr hirdymor.”

Wythnos ddiwethaf fe ddywedodd swyddogion yn yr Unol Daleithiau nad oedd dirprwyaeth Donald Trump yn Israel yn bwriadu cwrdd â swyddogion Palesteinaidd yn ystod yr ymweliad.