Mae disgwyl i ffigwr cenedlaetholgar gael ei ethol yn arweinydd ar Gatalwnia yn ddiweddarach.

Mae Quim Torra yn gyn-arweinydd grŵp fu’n ymgyrchu tros annibyniaeth, ac mae wedi ymrwymo i barhau’r ymgyrch honno.

Does neb wedi’u hethol yn arweinydd ar Gatalwnia ers chwe mis, a methodd Quim Torra a derbyn cefnogaeth ddigonol yn ystod pleidlais seneddol ddydd Sadwrn (Mai 12).

Ond, bellach mae plaid gwrth-gyfalafol wedi datgan y byddan nhw’n atal eu pleidlais, gan olygu bod Quim Torra yn debygol o lwyddo ddydd Llun (Mai 14).

Ers mis Hydref y llynedd – pan geisiodd Catalwnia ddatgan annibyniaeth – mae Madrid wedi bod yn rheoli Catalwnia yn uniongyrchol.

Mae’n debygol y bydd tensiynau rhwng Sbaen a Catalwnia yn dwysáu yn sgil pleidlais heddiw.