Mae dyn wedi cael ei saethu’n farw ar ôl lladd un person ac anafu pedwar mewn ymosodiad â chyllell ym Mharis.

Bu farw dyn 29 oed yn y digwyddiad.

Mae lle i gredu bod yr ymosodwr yn hanu o Chechnya, a bod ei rieni’n cael eu holi yn y ddalfa.

Mae Daesh – neu’r ‘Wladwriaeth Islamaidd’ – yn honni mai nhw oedd yn gyfrifol am y digwyddiad ar Rue Monsigny toc wedi 9 o’r gloch nos Sadwrn.

Mae Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron wedi addo na fydd y wlad yn ildio i frawychiaeth yn dilyn cyfres o ymosodiadau dros y blynyddoedd diwethaf.

Yr heddlu gwrth-frawychiaeth sy’n ymchwilio i’r digwyddiad ar ôl i dystion glywed yr ymosodwr yn dweud y geiriau ‘Allahu Akbar’ wrth gynnal yr ymosodiad.

Yn ôl asiantaeth newyddion Daesh, Aamaq, roedd yr ymosodiad yn fodd o ddial am ymgais nifer o wledydd o dan arweiniad yr Unol Daleithiau i ddileu brawychiaeth yn Irac a Syria.

Mae mwy na 200 o bobol wedi’u lladd yn Ffrainc gan frawychwyr dros y blynyddoedd diwethaf.