Fe fydd Gogledd Corea yn cynnal seremoni cyn cau safle profion niwclear rhwng Mai 23 a 25.

Mae’r digwyddiad wedi’i alw’n un “dramatig” ar drothwy cyfarfod rhwng arweinydd y wlad, Kim Jong Un ac Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump fis nesaf.

Bydd yr holl dwnneli’n cael eu dinistrio mewn ffrwydrad, a bydd safleoedd arsylwi ac ymchwilio hefyd yn cael eu dinistrio.

Mae disgwyl i newyddiadurwyr o bob cwr o’r byd fod yn bresennol i weld y digwyddiad.