Mae llys ym Milan wedi penderfynu y gall cyn-Brif Weinidog yr Eidal, Silvio Berlusconi ddychwelyd i’r byd gwleidyddol unwaith eto.

Cafodd y dyn 81 oed ei wahardd ar ôl i lys ei gael yn euog o dwyll ariannol.

Ond mae’r papur newydd Eidalaidd Corriere della Sera yn adrodd fod tribiwnlys wedi barnu o’i blaid yn dilyn cais gan ei gyfreithwyr.

Collodd ei sedd yn 2013 yn sgil yr achos.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a fydd erlynwyr yn apelio yn erbyn y dyfarniad.

Ar ôl cael ei ryddhau o’r carchar, fe fu Silvio Berlusconi yn cwblhau gwaith yn y gymuned, gan helpu trigolion mewn cartref i gleifion â chyflwr Alzheimer.