Mae trigolion Irac yn pleidleisio mewn etholiad am y tro cyntaf ers i’r wlad drechu Daesh – neu’r Wladwriaeth Islamaidd.
Mae Prif Weinidod y wlad, Haider al-Abadi yn wynebu her gan sawl plaid sydd â chysylltiadau agos ag Iran.
Dyma’r pedwerydd etholiad yn y wlad ers i gyfundrefn Saddam Hussein ddod i ben yn 2003, ac mae’n cael ei gynnal yn electronig am y tro cyntaf erioed er mwyn ceisio atal twyll etholiadol.
Mae mesurau diogelwch llym yn eu lle yn y brifddinas Baghdad ar gyfer yr etholiad.
Fe fu Haider al-Abadi mewn grym ers 2014 ond mae’r wlad yn parhau i wynebu trafferthion ariannol.
Mae 329 o seddi ar gael yn senedd y wlad, ac mae bron i 7,000 o ymgeiswyr yn yr etholiad.
Mae disgwyl y canlyniadau o fewn 48 awr, ond mae disgwyl i’r trafodaethau i ffurfio llywodraeth bara rhai misoedd.