Mae llysgennad Israel yn y Cenhedloedd Unedig yn galw ar y Cyngor Diogelwch a’r ysgrifennydd cyffredinol i gondemnio ymosodiad taflegrau  Iran.

Mewn llythyr i’r cyngor ac at bennaeth y  Cenhedloedd Unedig Antonio Guterres, dywedodd Danny Danon bod yn rhaid mynnu bod Tehran yn rhoi’r gorau i’w phresenoldeb milwrol yn Syria.

Ychwanegodd nad oes gan Israel ddiddordeb mewn dwysau’r tensiynau ond na fyddai’n “caniatau i Iran sefydlu presenoldeb milwrol yn Syria gyda’r bwriad o ymosod ar Israel a tanseilio’r sefyllfa fregus iawn yn y rhanbarth.”