Mae Vladimir Putin wedi tyngu llw ar ddechrau ei bedwerydd tymor fel arlywydd Rwsia.

Mae wedi rhoi addewid i gyflwyno agenda economaidd a fydd yn hybu safonau byw ar draws y wlad.

Mewn seremoni yn neuadd y Kremlin, dywedodd Vladimir Putin bod gwella economi Rwsia wedi cyfnod o ddirwasgiad, sydd yn gysylltiedig yn rhannol a sancsiynau rhyngwladol, yn brif nod ganddo.

Mae’r Arlywydd wedi cael ei feirniadu am beidio symud economi Rwsia oddi wrth ei dibyniaeth ar allforion olew a nwy a datblygu’r sector gweithgynhyrchu.

Roedd wedi dal ei afael ar yr arlywyddiaeth yn yr etholiad ym mis Mawrth pan enillodd 77% o’r bleidlais.