Mae arweinydd protestiadau yn erbyn yr arlywydd Vladimir Putin yn Rwsia wedi cael ei ryddhau o’r ddalfa ond mae’n wynebu dau gyhuddiad.

Cafodd mwy na 1,500 o brotestwyr eu harestio ddoe ar ôl cymryd rhan mewn ralïau ledled y wlad yn erbyn urddo Vladimir Putin yn arlywydd am chwe blynedd arall.

Roedd arweinydd y protestwyr, Alexei Navalny, wedi cael ei arestio ar Sgwâr Pushkin yn Rwsia ddoe, ac mae’n wynebu cyhuddiadau o drefnu cyfarfod heb ganiatâd ac o wrthsefyll yr heddlu. Gall y cyhuddiadau arwain at ddedfryd o garchar o 15 niwrnod yr un.

Cafodd gwrthdystiadau eu cynnal mewn 26 o ddinasoedd ledled Rwsia, a dyw hi ddim yn glir eto faint o’r rhai a gafodd eu harestio sy’n dal yn y ddalfa.

Dywed y mudiad hawliau dynol, Amnest Rhyngwladol, fod y ffordd y mae llywodraeth Rwsia wedi trin y protestwyr yn ‘ffiaidd’.

Fe fydd Vladimir Putin yn cael ei urddo am dymor chwe-blynedd arall fel arlywydd yfory, ar ôl ennill etholiad gyda 77% o’r bleidlais ym mis Mawrth.