Mae R Kelly, canwr caneuon R&B poblogaidd fel ‘She’s Got That Vibe’ ac ‘Ignition’, yn honni bod y wasg a’r cyfryngau yn ceisio camliwio a distrywio ei etifeddiaeth drwy adrodd straeon ei fod yn cam-drin merched.

Yn ôl y canwr o America, mae’r cyhuddiadau sydd wedi eu gwyntyllu yn rhai “torcalonnus”.

Cyfeiriodd R Kelly ato’i hun fel “mab, brawd, ac yn bwysicach oll, tad” cyn honni bod y wasg a’r cyfryngau “wedi dadberfeddu a chamliwio’r cyhuddiadau di-sail” yn ei erbyn.

Fe gafodd R Kelly ei ganfod yn ddieuog o gyhuddiadau yn ymwneud â phornograffi plant yn Chicago yn 2008, ond parhau mae’r trafod ar ei gamymddwyn rhywiol honedig.

Dywed y canwr nad yw yn destun unrhyw ymchwiliadau troseddol ar hyn o bryd.

Ychwanegodd bod y cyhuddiadau yn “cael eu cynnal a’u hamlygu” gan y wasg a’r cyfryngau mewn ymgais “i roi camargraff o fy nghymeriad a distrywio’r etifeddiaeth yr wyf wedi gweithio mor galed i’w chreu”.