Mae arweinydd Gogledd Corea, Kim Jong Un wedi addo cau safle profion niwclear y wlad ym mis Mai – gan agor y safle i arbenigwyr a newyddiadurwyr o Dde Corea a’r Unol Daleithiau.

Daw’r cyhoeddiad ar drothwy trafodaethau rhwng yr arweinydd ac Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump dros yr wythnosau nesaf.

Roedd Kim Jong Un yn cyfarfod ag Arlywydd De Corea Moon Jae-in ar y ffin rhwng y ddwy wlad ddydd Gwener, gan ddweud y bydd Donald Trump yn darganfod nad yw’n un sydd am danio taflegrau.

Yn ystod y cyfarfod rhwng De a Gogledd Corea, fe wnaeth y ddau arweinydd addo dod â holl weithgarwch niwclear y ddwy wlad i ben. Ond dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd pryd fydd hynny’n digwydd.

Gallai Kim Jong Un a Donald Trump gyfarfod erbyn mis Mehefin i drafod y sefyllfa.

Beirniadu Gogledd Corea

Mae rhai wedi beirniadu Gogledd Corea, gan ddweud mai cau safleoedd niwclear sy’n rhy hen i’w cynnal y bydd y wlad.

Mae disgwyl i dwnnel yn Pynggye-ri gau, a hwnnw’n rhy ansefydlog bellach i’w drwsio yn dilyn profion ym mis Medi.

Ond mae Kim Jong Un yn gwadu’r honiadau, gan ddweud y bydd dau dwnnel newydd hefyd yn cau.