Mae’r digrifwr Bill Cosby yn wynebu treulio gweddill ei fywyd yn y carchar ar ôl ei gael yn euog o ymosod yn anweddus ar ddynes yn ei gartref yn 2004.

Cafwyd Bill Cosby, 80, oed yn euog ddydd Iau o roi cyffuriau ac ymosod yn rhywiol ar Andrea Constand yn ei dy yn Philadelphia ym mis Ionawr 2004.

Mae’n dilyn blynyddoedd o ymchwiliadau ac achosion yn erbyn yr actor yn sgil honiadau gan fwy na 60 o ferched a oedd wedi dweud bod Bill Cosby wedi rhoi cyffuriau iddyn nhw cyn ymosod arnyn nhw, dros gyfnod o bum degawd.

Ond cafodd y rhan fwyaf o’r honiadau eu hanwybyddu cyn i ymgyrch #MeToo roi sylw i achosion o aflonyddu rhywiol gan nifer o ddynion dylanwadol.

Mae Bill Cosby yn fwyaf adnabyddus am chwarae Dr Cliff Huxtable yn The Cosby Show.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth wrth iddo aros i gael ei ddedfrydu. Mae’n wynebu cyfnod o 30 mlynedd dan glo.

Mae ei gyfreithiwr wedi dweud y bydd yn apelio yn erbyn y dyfarniad.