Mae pum dyn o Sbaen wedi’u dedfrydu i naw mlynedd o garchar am dreisio merch yn ystod gŵyl teirw yn Pamplona.

Roedd y pum aelod o’r grŵp, La Manada, wedi dadlau yn ystod yr achos llys bod y ferch 18 oed wedi rhoi caniatâd iddyn nhw gael rhyw â hi.

Ac i gefnogi eu hachos, fe gyflwynon nhw adroddiad gan dditectif ynglŷn a’i hymddygiad ar ôl y digwyddiad ym mis Mehefin 2016.

Fe gafodd y dynion eu canfod yn euog am gam-drin rhywiol, ac nid trais rywiol.

Mae’r pump wedi’u gorfodi i dalu 50,000 euro (£42,500) mewn iawndal, a does gan yr un ohonyn nhw’r hawl i gysylltu â’r ferch am 15 mlynedd.