Mae dwsinau o bobol wedi’u hanafu wedi i ddaeargryn ysgwyd de-ddwyrain Twrci.

Fe gafodd pentref Samsat yn rhanbarth Adiyaman ei tharo yn gynnar fore heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 24), ac mae’r ddaeargryn wedi’i fesur yn 5.2, a’i ganolbwynt 10km dan ddaear.

Mae gweinidog iechyd y wlad wedi cadarnhau fod 35 o bobol wedi’u hanafu ac yn dal i dderbyn triniaeth mewn ysbyty.

Fe deimlwyd yr ysgwyd hefyd yn y rhanbarthau cyfagos, tra bod y ganolfan fonitro leol wedi cofnodi 13 o ol-gryniadau.