Mae Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, ar ail ddiwrnod ei ymweliad â’r Unol Daleithiau – yr ymweliad gwladwriaethol cyntaf i Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, ei gynnal.

Daw hyn wedi iddo fethu â chynnal digwyddiad o’r fath yn ystod ei 100 diwrnod cyntaf yn y swydd – yr Arlywydd cyntaf yn hanes yr Unol Daleithiau i wneud hynny.

Fe gafodd Donald Trump a’i wraig, Melania, ei wahodd i Ffrainc y llynedd, lle bu’r ddau’n rhan o ddathliadau Diwrnod Bastille.

Er bod Emmanuel Macron a Donald Trump yn anghytuno ar nifer o faterion, mae gan y ddau berthynas glòs, a hynny mewn cyfnod pan fo perthynas Arlywydd yr Unol Daleithiau ag arweinwyr gweddill Ewrop o dan straen.

Cinio fawreddog

Yn ystod yr ymweliad yr wythnos hon, fe gafodd Emmanuel Macron ddiwrnod cyntaf ymlaciol ddoe (dydd Llun, Ebrill 23), wedi iddo ymuno â Donald Trump ar gyfer taith hofrennydd uwchben Washington DC.

Yn ystod yr ail ddiwrnod, mae disgwyl iddo ddychwelyd i’r Tŷ Gwyn lle bydd yn cael ei groesawu gan 500 o aelodau’r lluoedd arfog.

Fe fydd wedyn yn cynnal cynhadledd i’r wasg ar y cyd â Donald Trump, ynghyd â chael cinio gyda’r Dirprwy Arlywydd, Mike Pence.

Fe fydd y dydd yn cael ei orffen wedyn gyda chinio mawreddog yn y nos, lle bydd tua 150 o bobol yn bresennol.