Mae cwestiynau wedi codi ynglŷn â mymi sydd wedi’i ddarganfod ger beddrod yn Iran, gyda nifer yn credu mai corff y diweddar Reza Shah Pahlavi ydyw.

Reza Shah Pahlavi oedd sylfaenydd y llinach brenhinol Pahlavi ac yn ystod ei deyrnasiad fel shah rhwng 1925 a 1941, bu’n allweddol yn y gwaith o foderneiddio Iran.

Fe gafodd ei ddiorseddu gan y Cynghreiriaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a bu farw’n alltud yn Ne Affrica yn 1944.

Ei fab, Mohammad Reza Shah, oedd shah olaf Iran, ac fe gafodd yntau ei ddiorseddu yn 1979 ar drothwy’r Chwyldro Islamaidd.

‘Posibilrwydd’

Yn ôl llefarydd ar ran cyngor dinas Tehran, fe gafodd y mymi ei ddarganfod wrth i waith gynnal a chadw gael ei wneud ar feddrod Shiite yn y ddinas, ac ychwanegodd ei bod yn “bosib” mai corff y cyn-shah yw’r mymi.

Ers y cyhoeddiad, mae ŵyr y Reza Shah, y tywysog Reza Pahlavi, sy’n alltud yn yr Unol Daleithiau, wedi rhybuddio Iran ar y wefan gymdeithasol, Twitter, i beidio â “chuddio unrhyw beth”.