Mae lluoedd llywodraeth Syria wedi lansio ymgyrch newydd, gan dargedu’r twneli dan-ddaear sy’n cael eu defnyddio gan y Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn y brifddinas, Damascus.

Yn ol adroddiadau ar gyfryngau’r wlad, pwrpas yr ymngyrch ydi dinistrio ffosydd a thwneli yn ardal Hajar al-Aswad yn ogystal â gwersyll ffoaduriaid Palesteinaidd Yarmouk, sydd dan reolaeth IS.

Mae grwp o newyddiadurwyr wedi gweld y bomio a’r cyrchoedd yn digwydd.

Yr ardal yn ne’r ddinas ydi’r rhan ola’ o Ddamascus sydd ddim dan reolaeth yr arlywydd, Bashar Assad.