Mae’r dyn sy’n cael ei amau o’r ymosodiadau brawychol ym Mharis, Salah Abdeslam, a dyn arall, wedi’u cael yn euog o geisio llofruddio heddwas ar ôl i ergydion gael eu tanio at yr heddlu ym Mrwsel wrth iddyn nhw geisio osgoi cael eu dal.

Mae llys ym Mrwsel wedi dedfrydu Salah Abdeslam a Sofiane Ayari i 20 mlynedd dan glo.

Fe ddigwyddodd y saethu ym mis Mawrth 2016, bedwar mis ar ol yr ymosodiadau ym Mharis ym mis Tachwedd 2015, pan gafodd 130 eu lladd.

Roedd Salah Abdeslam a Sofiane Ayari ar fin cael eu harestio pan geisiodd y ddau ffoi wrth i ddyn arall danio gwn at yr heddlu. Cafodd y dyn ei ladd a thri o swyddogion yr heddlu eu hanafu.

Dridiau’n ddiweddarach cafodd Salah Abdeslam ei arestio ym Mrwsel. Pedwar diwrnod wedi hynny cafodd 32 o bobl eu lladd mewn ymosodiadau bom ym maes awyr Brwsel ac ar system drenau tanddaearol y brifddinas.

Roedd Salah Abdeslam a Sofiane Ayari wedi gwrthod mynd i’r llys er mwyn clywed y dyfarniad. Mae Salah Abdeslam yn cael ei gadw mewn carchar yng ngogledd Ffrainc.

Nid yw’n glir pryd fydd yn sefyll ei brawf dros yr ymosodiadau ym Mharis.