Mae Gogledd Corea wedi cyhoeddi eu bod yn rhoi’r gorau i brofion taflegrau niwclear a thaflegrau pellter hir am y tro.

Eu bwriad hefyd yw cau eu safle profion niwclear – er nad oes unrhyw arwydd y bydden nhw’n fodlon trafod cael gwared ar eu harfau.

Daw’r cyhoeddiad o flaen cyfarfod hanesyddol rhwng eu harweinydd Kim Jong Un ac arlywydd America, Donald Trump y mis nesaf neu fis Mehefin.

Mae Donald Trump wedi disgrifio’r cyhoeddiad fel “newyddion da iawn i Ogledd Corea a’r Byd” a “chynnydd mawr”, gan ddweud ei fod yn edrych ymlaen at ei gyfarfod gyda Kim Jong Un.

Mewn datganiad, dywedodd llywodraeth De Corea fod y cyhoeddiad yn gwella’r rhagolygon am drafodaethau llwyddiannus rhwng Seoul, Pyongyang a Washington, a’i fod yn “gynnydd ystyrlon” tuag at heddwch ar y penrhyn.

Barn rhai dadansoddwyr, fodd bynnag, yw bod Kim Jong Un yn cychwyn y trafodaethau mewn sefyllfa gref a’i fod yn annhebygol o dderbyn toriad sylweddol i’w bentwr arfau na mynd yn sylweddol y tu hwnt i rewi rhaglen niwclear.