Fe fydd 175,000 o aelodau o staff Starbucks yn derbyn hyfforddiant ar hiliaeth yn dilyn digwyddiad yn Philadelphia.

Bydd 8,000 o siopau’r cwmni’n cau am y diwrnod fis nesaf ar gyfer yr hyfforddiant, ar ôl i ddau ddyn croenddu gael eu harestio’n ddiweddar.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r siop yn Philadelphia yn ddiweddar ac yn dilyn trafodaeth, cafodd dau ddyn croenddu eu rhoi mewn cyffion a’u tywys oddi ar y safle gan yr heddlu.

Ond yn ôl cwsmeriaid eraill, doedd y ddau ddyn ddim wedi gwneud unrhyw beth o’i le, ac roedden nhw yno’n aros am eu ffrind.

Dydi’r aelod staff oedd wedi ffonio’r heddlu ddim yn gweithio i’r cwmni erbyn hyn.

Mae Prif Weithredwr y cwmni, Kevin Johnson wedi ymddiheuro am y digwyddiad, gan ddweud y byddai staff yn derbyn hyfforddiant ar Fai 29 er mwyn osgoi rhagfarn yn erbyn unrhyw gwsmer.