Mae archwilwyr rhyngwladol wedi cyrraedd y dref yn Syria lle y bu’r ymosodiad cemegol honedig ar ddechrau’r mis.

Mae’r swyddogion yn ymchwilio i honiadau bod Llywodraeth Syria wedi defnyddio arfau cemegol yn nhref Douma, mewn cyrch yn erbyn gwrthryfelwyr.

Bu farw o leia’ 40 o bobol yn yr ymosodiad, yn ôl ymgyrchwyr o Syria, a chynhaliodd yr Unol Daleithiau, Ffrainc, a Gwledydd Prydain gyrchoedd awyr i gosbi Llywodraeth Syria am hynny.

Does dim sail i’r honiadau yn ôl Syria a Rwsia, ac mae Moscow wedi cyhuddo gwledydd Prydain o gynnal “ffug” ymosodiad.

Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Theresa May, wedi cyhuddo Syria a Rwsia o guddio tystiolaeth, ac yn ôl yr archwilwyr roedd lluoedd y ddwy wlad wedi ceisio eu rhwystro rhag cyrraedd y dref.