Mae pennaeth NATO, Jens Stoltenberg wedi dweud nad oedd gan yr Unol Daleithiau, Prydain a Ffrainc “ddim dewis” ond bomio Syria.
Dywedodd ar ôl cyfarfod â llysgenhadon NATO y tair gwlad fod pob opsiwn arall wedi cael ei ystyried, ond fod diffyg cydweithredu Rwsia wedi arwain at y penderfyniad i fomio Syria o’r awyr.
“Dw i ddim yn dweud bod yr ymosodiadau neithiwr wedi datrys yr holl broblemau,” meddai, “ond o’i gymharu â’r opsiwn arall o wneud dim, dyma oedd y peth cywir i’w wneud.”
Dywedodd fod holl aelodau NATO yn gytûn mai cynnal y cyrchoedd oedd yr unig ddewis oedd ganddyn nhw yn sgil yr ymosodiad ag arfau cemegol ar ddinas Douma yr wythnos ddiwethaf.
Diben y cyrchoedd, meddai, oedd sicrhau na fyddai Syria yn gallu defnyddio arfau cemegol eto heb gael eu cosbi.
Beirniadu
Ond mae Rwsia wedi beirniadu’r cyrchoedd, gan ddweud eu bod yn gyfystyr â “hwliganiaeth”, gan alw ar i’r Cenhedloedd Unedig feirniadu’r weithred.
Ond mae disgwyl i’r cynnig hwnnw gael ei drechu mewn pleidlais ar ddiwedd cyfarfod brys, a gafodd ei drefnu ar gais Rwsia.
Mae Rwsia’n mynnu bod y gweithredu milwrol yn dod i ben ar unwaith.