Yn ei neges ar Twitter yn datgan fod yr Unol Daleithiau wedi cyflawni’r nod wrth gynnal cyrchoedd awyr yn Syria, roedd adlais o neges George W Bush a berodd gryn embaras iddo, sef ei bod yn “mission accomplished“.

Roedd y sylw gan George W Bush yn 2003 yn cyfeirio at gyrchoedd yn Irac, pan ddywedodd ar ôl y cyrch gwreiddiol fod gwaith yr Unol Daleithiau yn y wlad ar ben. Ond fe barodd y rhyfel nifer o flynyddoedd.

Fe fu’n rhaid i’r Arlywydd wneud tro pedol bryd hynny, gan geisio cynnig sawl eglurhad am yr ymadrodd, ac fe ddaeth yn destun gwawd am gryn amser wedyn.

Heddiw, dywedodd yr Arlywydd Donald Trump fod yr Unol Daleithiau wedi cwblhau “cyrch perffaith” ac na allen nhw fod wedi cael “canlyniad gwell”, gan ychwanegu’r ymadrodd “Mission accomplished!”