Mae De Affrica yn ffarwelio â Winnie Madikizela-Mandela heddiw wrth i’w hangladd gael ei gynnal yn Soweto.

Bu farw’r ymgyrchydd gwrth-aparteid ar Ebrill 2 yn 81, a hithau’n gyn-wraig i gyn-Arlywydd y wlad, Nelson Mandela.

Mae ei hangladd yn cael ei gynnal yn Stadiwm Orlando yn Soweto, a digon o le yno am 40,000 o bobol.

Mae hi’n cael ei chanmol am gynnal hawliau dynol adeg aparteid, tra bod Nelson Mandela wedi’i garcharu ar Ynys Robben. Dywedodd yr ymgyrchydd Jesse Jackson ddydd Gwener ei bod hi’n gyfrifol am sicrhau bod hawliau dynol wedi dod yn “frwydr fyd-eang”.

Bywyd a gyrfa

Cafodd Winnie Madikizela-Mandela ei magu yn Eastern Cape cyn symud i Johannesburg.

Hi oedd y ddynes groenddu gyntaf erioed i fod yn weithwraig gymdeithasol yn y wlad.

Yno y cyfarfu â Nelson Mandela, ac esgor ar bartneriaeth oedd wedi para degawdau ar ôl iddyn nhw briodi yn 1958.

Cafodd hithau hefyd ei charcharu am fod yn ymgyrchwraig ac yn 1977, cafodd ei halltudio o Soweto i dref fechan er mwyn ei chadw ar wahân i’r mudiad yr oedd hi wedi ei sefydlu tros hawliau dynol.

Ar ôl dychwelyd, daeth hi i gysylltiad â chriw treisgar o ddynion oedd yn cael y bai am nifer o ddigwyddiadau treisgar yn Soweto. Yn 1991, cafwyd hi’n euog am ei rhan mewn achos o gipio bachgen ac ymosod arno, a chafodd ei charcharu am chwe blynedd.

Ond ar ôl apelio, cafodd ei dedfryd ei lleihau i ddirwy a dedfryd ohiriedig.

Yn 1996, fe wnaeth hi a Nelson Mandela ysgaru, wrth iddo ei chyhuddo o fod yn anffyddlon ac o wneud iddo deimlo’n unig. Cafodd ei diswyddo ganddo o’i gabinet, a hithau wedi bod yn ddirprwy weinidog yn ei lywodraeth.