Mae miloedd o Balestiniaid yn protestio ar y ffin rhwng Gaza ac Israel.
Bellach mae’r gwrthdystio wedi troi’n danllyd, gyda’r protestwyr yn lluchio cerrig a milwyr Israel yn saethu bwledi.
Hyd yma anafwyd 112 o Balestiniaid, yn ôl awdurdodau Gaza.
Dyma’r trydydd brotest o’i fath o fewn ychydig wythnosau – cafodd 27 o Balestiniaid eu lladd yn ystod digwyddiad bythefnos yn ôl.
Ers 2007 mae Gaza wedi bod dan warchae economaidd, ac ymateb yw’r protestiadau i’r sefyllfa hyn.