Mae Ysgrifennydd y Cenhedloedd Unedig wedi rhybuddio gwledydd mawr y byd rhag gadael i’r ymladd yn Syria “droelli y tu hwnt i reolaeth”.

Roedd Antonio Guterres wedi cysylltu gyda llysgenhadon pob un o’r pump gwlad sydd â fito ar Gyngor Diogelwch y corff rhyngwladol i alw ar eu gwledydd i gymryd pwyll.

Mae hynny’n cynnwys yr Unol Daleithiau, sy’n ystyried ymosod ar Syria ar ôl ymosodiad cemegol honedig yno, a’r Deyrnas Unedig, sy’n ystyried ei chefnogi.

Carter yn rhybuddio Trump

Mae cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau, Jimmy Carter, hefyd wedi rhybuddio Donald Trump rhag ymosod.

Roedd yn gobeithio, meddai, bod Donald Trump yn deall y byddai gwrthdaro niwclear yn drychineb i’r ddynoliaeth i gyd.

Eisoes mae cwmnïau awyrennau wedi yn ystyried peidio â hedfan yng nghyffiniau Syria oherwydd y peryg o ymosodiad.