Mae awdurdodau yn y Swistir a’r Eidal yn chwilio am bilwynydd sydd wedi bod ar goll yn yr Alpau ers y penwythnos.

Mae Karl-Erivan Haub, 58, yn hanu o’r Almaen ac yn bennaeth ar gwmni Tengelmann, ac yn aelod o un o deuluoedd cyfoethocaf y byd.

Roedd wedi bod yn sgïo ar ben ei hun ar fynydd y Matterhorn, mewn ardal sydd â llawer o rewlifoedd.

Mae’n ddigon posib bod y biliynydd wedi cwympo mewn i hollt yn yr iâ, a hyd yma mae tywydd garw wedi rhwystro’r ymdrechion i ddod o hyd iddo.