Mae swyddogion yr Unol Daleithiau wrthi’n ymgynghori â’u cynghreiriaid, ac yn ystyried ymateb milwrol i ymosodiad nwy yn Syria.

Mae’n ddigon posib y gallai ymgyrch filwrol gael ei lansio erbyn diwedd yr wythnos, ond hyd yma does dim penderfyniad cadarn wedi’i wneud, yn ôl swyddogion.

Bu farw 40 o bobol yn sgil yr ymosodiad ar dref Douma ddydd Sadwrn (Ebrill 7), meddai ymgyrchwyr, a bellach mae sawl arweinydd wedi galw am ymateb rhyngwladol.

Mae Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, wedi galw am “ymateb cryf ar y cyd”, gyda’r prif Weinidog, Theresa May, yn adleisio hynny ac yn condemnio’r weithred “atgas”.

Honiad yr Unol Daleithiau yw mai Llywodraeth Syria sy’n gyfrifol, ond â thystiolaeth yn brin mae Rwsia’n honni na fu ymosodiad o gwbwl.