Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau wedi addo “ymateb grymus” i ymosodiad nwy honedig ar dref yn Syria.

Yn ôl rhai adroddiadau, bu’n rhaid cludo dros 500 o bobol – menywod a phlant yn bennaf – i ganolfannau meddygol yn dilyn yr ymosodiad honedig ar Douma ddydd Sadwrn (Ebrill 7).

Mae Donald Trump wedi galw’r digwyddiad yn “ofnadwy” a’n siarad nos Lun (Ebrill 9), dywedodd y byddai’n penderfynu ar ymateb “naill a’i heno, neu’n fuan wedi hynny”.

“Ni yw’r grym milwrol gorau yn y byd,” meddai. “Byddwn yn penderfynu ar sut i ymateb … a bydd yr ymateb yn rymus. Pryd? Dw i ddim am ddweud, oherwydd dw i ddim yn hoffi siarad am amseroedd.”

Rwsia

Daw’r sylwadau wedi i Rwsia rhybuddio y byddai “sgil effeithiau difrifol” pe tasai’r Unol Daleithiau yn ymyrryd yn Syria.

Mae gan Foscow bresenoldeb milwrol yn y wlad, a’i nod yw cefnogi’r llywodraeth yno,

Cafodd ymosodiad ei gynnal ar faes awyr yn Syria ddydd Llun (Ebrill 9), a bellach mae Rwsia wedi ochri gyda Llywodraeth y wlad gan feio Israel am y weithred.