Mae llong ofod o Ewrop yn barod i ddechrau chwilio am olion o fywyd ar y blaned Mawrth.

Mae disgwyl i’r ExoMars Trace Gas Orbiter (TGO) ddechrau ar ei gwaith o fewn y pythefnos nesaf, a hynny ar ôl bod yn cylchu’r blaned am y flwyddyn ddiwethaf.

Y prif nos ydi “synhwyro” awyrgylch Mawrth a chwilio am dystiolaeth o’r nwy methan, a allai fod yn arwydd o fywyd ar, neu o dan, wyneb y blaned.

Ar hyn o bryd, mae TGO yn cylchu Mawrth bob dwyawr tra bod meddalwedd newydd yn cael ei llwytho a’i wneud yn barod ar gyfer cymryd mesuriadau.