Doedd gan y dyn a yrrodd fan i ganol tyrfa o bobol yn Munster bnawn Sadwrn, ddim trwydded i fod â gwn yn ei feddiant, meddai’r awdurdodau yn yr Almaen.

Fe laddwyd dau o bobol gan y gyrrwr 48 oed, wrth iddo fynd ar ei ben i ganol y dorf y tu allan i far poblogaidd yn y ddinas yng ngorllewin y wlad.

Ar ol gwneud hynny, fe saethodd ei hun yn farw.

“Doedd ganddo ddim trwydded arfau,” meddai llefarydd ar heddlu talaith gogledd y Rhine a Westphalia. “Doedd o ddim yn arf cyfreithlon.”

Mae’r heddlu hefyd yn dweud i’r gyrrwr anfon ebost at gymydog, ymysg eraill, y mis diwethaf yn “awgrymu” ei fod yn ystyried ei ladd ei hun. Ond doedd yn y neges honno ddim cyfeiriad o gwbwl at achosi niwed i bobol eraill, medden nhw.

Doedd yna, chwaith, ddim awgrym fod yna gymhelliad gwleidyddol i’r ymosodiad.