Mae awyrennau Israel wedi cynnal cyrch ar un o safleoedd Hamas yn Llain Gaza, a hynny mewn ymateb i ddod o hyd i ddwy ddyfais ffrwydrol ger y ffin.

Mae byddin Israel yn dweud fod yr awyrennau jet wedi taro “targed brawychol” oddi mewn i safle Hamas yn gynnar fore heddiw (dydd Llun, Ebrill 9).

Fe ddaethpwyd o hyd i’r ffrwydron ddydd Sul, oriau wedi i dri Palesteiniad o Gaza groesi’r ffin i mewn i Israel.

Ac fe ddaw’r ymosodiad o’r awyr wrth i Balesteiniaid yn Gazs gynnal protestiadau yn erbyn blocâd ar y ffin.

Mae swyddogion iechyd Palesteinaidd yn dweud fod beth bynnag 31 o bobol wedi’u lladd gan fomiau Israel yn ystod y gwrthdaro, a 25 o’r rheiny yn ystod protestiadau.

Mae Israel, ar y llaw arall, yn dweud fod y protestwyr yn tynnu sylw’r byd oddi ar ymosodiadau ar filwyr a mwy o groesi’r ffin yn anghyfreithlon.