Mae sawl taflegryn wedi’i danio tuag at safle milwrol yng nghanol Syria, yn ôl gwasanaeth newyddion y wlad.

Daw hyn yn sgil ymosodiad nwy honedig ar dref Douma – tref ger y brifddinas, Damascus, sydd dan reolaeth gwrthryfelwyr.

Mae’r Arlywydd, Donald Trump, wedi rhybuddio y bydd “goblygiadau mawr” i’r ymosodiad nwy, ond mae’r Unol Daleithiau yn gwadu mai nhw sy’n gyfrifol am danio’r taflegrau.

Hyd yn hyn, does dim un garfan wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad ar y safle milwrol, ond mae grwpiau sy’n cefnogi Llywodraeth Syria wedi cyhuddo’r Unol Daleithiau ac Israel.

Mae adroddiadau’n awgrymu bod 14 o bobol – Iraniaid ac aelodau grwpiau â chefnogaeth Iran – wedi marw yn dilyn yr ymosodiad.

Bydd Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig yn cynnal cyfarfod brys yn ddiweddarach i drafod yr ymosodiad nwy.