Mae’r seren ffilmiau Bollywood Salman Khan ar fechnïaeth wrth iddo apelio yn erbyn cyhuddiadau o hela ceirw’n anghyfreithlon mewn gwarchodfa ddau ddegawd yn ôl.

Cafodd ei ddedfrydu ddydd Iau i bum mlynedd dan glo, a’i ddanfon i’r carchar ar unwaith.

Ond cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth heddiw ar ôl talu 50,000 rupee (£550) yn Jodhpur, ac mae ei ddilynwyr yn dathlu ar y strydoedd.

Fe fydd yn parhau ar fechnïaeth ar gyfer hyd ei apêl.

Cafwyd pedwar o bobol eraill, gan gynnwys yr actor Saif Ali Khan, yn ddieuog ar ôl bod yng ngherbyd Salman Khan.

Mae Salman Khan yn gwadu’r cyhuddiadau.