Mae dyn â gwn wedi lladd pedwar o bobol mewn prifysgol yng nghanolbarth Twrci.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ym Mhrifysgol Osmangazi yn ninas Eskisehir.

Mae heddlu lleol wedi arestio’r gwr, sydd hefyd yn aelod o staff y coleg.

Yn ol asiantaeth newyddion Anadolu, mae dirprwy ddeon, ysgrifenyddes a dau ddarlithydd wedi marw.

Dyw hi ddim yn glir eto beth oedd y rheswm y tu ol i’r ymosodiad.