Mae cannoedd o bobol yn ymgynnull ar gyfer gorymdaith i nodi hanner can mlynedd ers i Martin Luther King gael ei ladd ym Memphis.

Cafodd ei saethu’n farw ar falconi motel ar 4 Ebrill, 1968, ac yntau yn ddim ond 39 oed.

Mae oddeutu 400 o bobol o ddinasoedd eraill wedi teithio i Memphis ar gyfer y digwyddiad, a nifer o fudiadau blaenllaw yn cael eu cynrychioli yno.

Fe fydd achlysur hanner canmlwyddiant marwolaeth yr arweinydd hawliau sifil yn cael ei nodi gyda gorymdeithiau, areithiau a chyfleoedd i’w gofio’n dawel.

Mae nifer o ddigwyddiadau wedi’u trefnu yn Atlanta, lle’r oedd yn byw, gan gynnwys seremoni wobrwyo dan ofal ei ferch, y Parchedig Bernice A King.

Ym Memphis, mae disgwyl i’r gweinidogion, y Parchedig Jesse Jackson a’r Parchedig Al Sharpton, ynghyd â John Lewis gymryd rhan mewn cyfres o ddigwyddiadau.

Ymhlith y digwyddiadau sydd wedi’u cynnal eisoes mae dathliad o’i araith ‘I’ve Been To The Mountaintop’ – ei araith olaf, ar y noson cyn iddo gael ei ladd.

Fe fydd torchau o flodau’n cael eu gadael ar ei fedd heno.

Galaru

Mae Bernice A King wedi dweud ei bod yn anodd i’r teulu alaru marwolaeth Martin Luther King yn gyhoeddus.

Roedd yn cael ei gasáu gan rai yn ystod ei fywyd, ond yn cael ei garu gan lawer mwy ers ei farwolaeth.

“Mae’n bwysig gweld dau o’r plant a gollodd eu tad 50 mlynedd yn ôl i fwled llofrudd.

“Ond rydym yn dal i fynd. Cadwch ni i gyd yn eich gweddïau wrth i ni barhau i alaru am riant nad ydym eto wedi ei gladdu.”