Mae pedwar o bobol wedi cael eu lladd yn ne Califfornia wrth i hofrennydd y fyddin blymio i’r ddaear.
Mae byddin yr Unol Daleithiau wedi cadarnhau bod yr hofrennydd CH-53E Super Stallion wedi taro’r ddaear ger dinas El Centro, ar ôl iddo gychwyn ei daith o faes awyr Miramar ger San Siego.
Maen nhw hefyd yn dweud eu bod yn cynnal ymchwiliad i’r ddamwain.
Daw’r cyhoeddiad hwn wrth i newyddion dorri am ddigwyddiad ar wahân yng ngogledd Califfornia, lle mae dynes wedi anafu tri pherson ym mhencadlys Youtube yn San Bruno, cyn saethu ei hun yn farw.