Mae dynes wedi anafu tri pherson, cyn saethu ei hun yn farw, ym mhencadlys YouTube yng ngogledd Califfornia.

Ers hynny, mae heddlu San Bruno wedi cadarnhau mai enw’r ddynes yw Nasim Aghdam, 39 oed, o San Diego. Maen nhw hefyd yn dweud ei bod nhw’n trin y digwyddiad fel “ffrae ddomestig”.

Mae dyn 36 oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty, ynghyd â dwy ddynes 32 a 27 oed.

Yn ôl yr heddlu, fe gawson nhw eu galw i’r safle am 12:48yh (7:48yh yng Nghymru), a hynny ar ôl i Nasim Aghdam gael mynediad i bencadlys YouTube yn San Bruno ger San Francisco, cyn anafu tri o bobol trwy eu saethu.

Mae’n debyg ei bod wedi rhannu fideos ar Youtube yn ddiweddar yn mynegi dicter.

Mae prif weithredwr YouTube, Susan Wojcicki, wedi dweud ar y wefan gymdeithasol, Twitter, ei fod yn brofiad “erchyll” o gael saethwr ym mhencadlys y cwmni, ac y bydd Youtube yn dod ynghyd fel “teulu” yn sgil y digwyddiad.