Mae tua 1,100 o wrthryfelwyr a’u teuluoedd wedi ffoi o’u cadarnle ger prifddinas Syria.
Pobol tref Douma, ger Damascus, oedd ymhlith y cyntaf i droi yn erbyn Arlywydd Bashar Assad yn 2011.
Ac mae rhan helaeth o’r gwrthryfelwyr sydd yn ymladd yn nwyrain Damascus yn aelodau o Fyddin Islam, sef grŵp sydd â’i wreiddiau yn Douma.
Mae’r gwrthryfelwyr wedi gadael yn sgil dêl â byddin Rwsia.
Dan amodau’r ddêl, mi fyddan nhw’n cael eu cludo mewn bysys i ardaloedd yng ngogledd Syria sydd o hyd dan reolaeth gwrthryfelwyr.