Mae’r ymgyrchydd gwrth-apartheid a’r gwleidydd Winnie Madikizela-Mandela, a oedd hefyd yn gyn-wraig i Nelson Mandela, wedi marw yn 81 oed.

Fe fu Winnie Madikizela-Mandela yn briod a Nelson Mandela, o 1958 hyd at 1996.

Fe dreuliodd Nelson Mandela, Arlywydd du cyntaf De Affrica, y rhan fwyaf o’r cyfnod hwnnw dan glo. Roedd hi’n ffigwr blaenllaw yn yr ymgyrch gwrth-apartheid ac o ganlyniad, fe dreuliodd Winnie Madikizela-Mandela gyfnodau hir yn y carchar a blynyddoedd dan glo yn ei chartref.

Cafodd Nelson Mandela ei ryddhau o’r carchar yn 1990 ond daeth y briodas i ben ddwy flynedd yn ddiweddarach. Cafodd y cwpl ysgariad yn 1996. Roedd ganddyn nhw ddwy ferch. Bu farw Nelson Mandela yn 2013.

Ym 1991 daeth Winnie Madikizela-Mandela yn ffigwr dadleuol ar ol ei chael yn euog o herwgipio a’i dedfrydu i chwe blynedd o garchar am ei rhan ym marwolaeth y milwriaethwr ifanc Stompie Seipei, 14 oed. Roedd hi wedi gwadu’r honiadau a chafodd ddirwy yn lle’r dedfryd o garchar.

Ond bu’n rhaid iddi wynebu’r honiadau unwaith eto yn 1997 yn ystod gwrandawiad gan banel a oedd yn ymchwilio i droseddau yn ystod cyfnod apartheid.

Yn ôl ei theulu bu farw Winnie Madikizela-Mandela mewn ysbyty yn Johannesburg yn dilyn salwch hir.