Mae Tsieina wedi gosod tollau newydd ar fewnforion o gig, ffrwythau a nwyddau eraill o’r Unol Daleithiau.

Daw hyn ar ôl i’r Arlywydd Donald Trump gymeradwyo tollau uwch ar fewnforion o ddur ac alwminiwm.

Dywed Tsieina eu bod wedi gosod y tollau newydd er mwyn diogelu eu buddiannau.  Daw’r tollau newydd i rym ddydd Llun.

Mae’n dilyn ffrae fasnach rhwng Tsieina a’r Unol Daleithiau.

Fe fydd yn golygu cynnydd o 25% ar dollau wyth o fewnforion o’r Unol Daleithiau gan gynnwys porc. Bydd cynnydd o 15% ar 120 o fewnforion eraill gan gynnwys ffrwythau.

Roedd Donald Trump wedi cynyddu’r tollau o 25%  ar fewnforion o ddur a 15% ar fewnforion o alwminiwm.