Mae’r Pab Ffransis wedi galw am heddwch ar draws y byd yn ei anerchiad Pasg blynyddol yn y Fatican.

Dywedodd fod angen dechrau gyda Syria ac ymestyn yr heddwch i’r Dwyrain Canol i gyd, Korea a rhannau o Affrica sy’n wynebu “newyn, gwrthdaro endemig a brawychiaeth”.

Daeth yr anerchiad ‘Urbi et Orbi’ traddodiadol o falconi’r Basilica gerbron sgwâr oedd yn orlawn.

Dywedodd fod neges Atgyfodiad yr Iesu’n cynnig gobaith mewn byd lle mae “cynifer o weithredoedd anghyfiawn a threisgar”.

“Mae’n dwyn ffrwyth gobaith ac urddas lle mae amddifadu a chau allan, newyn a diweithdra; lle mae mewnfudwyr a ffoaduriaid, sy’n aml yn cael eu gwrthod gan ddiwylliant heddiw o wastraffu, a dioddefwyr y diwydiant cyffuriau, masnachu pobol a ffurfiau cyfoes ar gaethwasiaeth.”

Gwrthdaro

Galwodd y Pab hefyd am “derfyn cyflym” ar y gwrthdaro yn Syria, gan alw am gymorth dyngarol i bobol mewn angen.

Fe alwodd hefyd am gymodi yn Israel, gan obeithio am ddatrys rhwyg yn yr Yemen a’r Dwyrain Canol i gyd.

Wrth gyfeirio at Asia, dywedodd ei fod yn gobeithio am heddwch ar ffiniau Corea drwy ddefnyddio “doethineb a chraffter i hybu lles y bobol”.

Fe gyfeiriodd hefyd at yr Wcráin, Sudan a’r Congo, gan atgoffa pobol i feddwl am blant sy’n dioddef.

Mesurau diogelwch

Cafodd mesurau diogelwch llym eu cyflwyno ar gyfer y digwyddiad heddiw.

Cafodd bagiau eu harchwilio, a synwyryddion metel eu defnyddio, a chafodd nifer o ffyrdd ger y Fatican eu cau i draffig.