Mae Malala Yousafzai wedi dychwelyd i dref Mingora ym Mhacistan am y tro cyntaf ers iddi adael y wlad ar ôl cael ei saethu gan y Taliban yn 2012.

Bryd hynny, cafodd hi ei herlid ganddyn nhw am hybu addysg i ferched.

Ers hynny, mae hi wedi ennill Gwobr Heddwch Nobel am ei gwaith.

Cyrhaeddodd hi a’i rhieni gwm Swat mewn hofrennydd yng nghanol diogelwch tynn. Roedd hi’n awyddus i ymweld â’r ardal lle mae ysgol wedi’i chodi gan ddefnyddio arian o Gronfa Malala a lle cafodd ei saethu chwe blynedd yn ôl.

‘Dim ofn’

Does gan Malala Yousafzai na’i theulu ‘ddim ofn’ dychwelyd i Swat, meddai llefarydd ar ran y teulu, sydd wedi diolch i lywodraeth Pacistan am gefnogi’r ymweliad.

Ers yr ymosodiad yn 2012, mae Malala Yousafzai yn mynnu bod y digwyddiad wedi ei chryfhau fel person, a hithau bellach yn awdur llyfr ac yn llefarydd ar hawliau dynol.

Ddydd Gwener, fe wnaeth hi ganmol meddygon ym Mhacistan oedd wedi ei thrin yn dilyn yr ymosodiad cyn iddi gael ei throsglwyddo i wledydd Prydain.

Mae disgwyl iddi ddychwelyd i Bacistan yn barhaol ar ôl cwblhau ei hastudiaethau yn y brifysgol.

Ymweliadau

Ddydd Iau, fe wnaeth Malala Yousafzai gyfarfod â Phrif Weinidog Pacistan, Shahid Khaqan Abbasi, lle traddododd hi araith emosiynol.

Ond nid pawb sy’n fodlon â’i hymdrechion i hybu addysg i ferched yn y wlad. Mae hi wedi’i beirniadu unwaith eto ers iddi ddychwelyd i’r wlad dros y dyddiau diwethaf.

Dywedodd wrth bapur newydd yn ei mamwlad fod “gan y rhai sy’n beirniadu fath o feirniadaeth abswrd nad yw’n gwneud synnwyr”.

Mae Cronfa Malala wedi buddsoddi chwe miliwn o ddoleri (£4,300,000) mewn addysg.

Malala Yousafzai, yn 2014, oedd y person ieuengaf i dderbyn Gwobr Heddwch Nobel.