Mae Nicolas Sarkozy wedi’i orchymyn i sefyll ei brawf ar honiadau o lygredigaeth ac o geisio ennill dylanwad.

Mae’n un o nifer o achosion sy’n cynnwys honiadau yn erbyn cyn-arlywydd Ffrainc – a’r ail achos hyd yma i gael ei gyfeirio i lys barn.

Mae Nicolas Sarkozy ei hun yn gwadu pob un o’r honiadau yn ei erbyn.

Yn yr achos diweddaraf hwn, mae’r honiadau yn dweud fod y gwleidydd wedi ceisio cael gwybodaeth gan farnwr trwy ddulliau anghyfreithlon – a hynny am achos ynglyn ag ef ei hun.

Fe all Nicolas Sarkozy, 63, apelio’n erbyn y gorchymyn yn ei erbyn.

Mae’r cyhuddiadau diweddar ynglyn â derbyn arian anghyfreithlon gan gyn-arlywydd Libya, Muammar Gaddafi, er mwyn talu am ei ymgyrch etholiadol yn 2007, yn rhan o achos annibynnol, ac mae’r ymchwilio yn parhau,