Mae Gweinyddiaeth Dramor Rwsia wedi dweud y bydd Moscow yn dial ar wledydd Prydain am ddiarddel diplomyddion o Rwsia ar ôl i gyn-ysbïwr a’i ferch gael eu gwenwyno.

Dywed llefarydd ar ran y weinyddiaeth, Maria Zakharova, y bydd yr ymateb o Rwsia yn dod cyn hir.

Mae dau ddwsin o wledydd, gan gynnwys yr Unol Daleithiau a llawer o wledydd yr Undeb Ewropeaidd, wedi taflu dros 150 o ddiplomyddion allan yr wythnos hon er mwyn dangos undod â Llywodraeth Prydain.

Dywed fod y gwaharddiadau wedi dod yn dilyn pwysau “anferthol” gan Washington a Llundain, cyn ychwanegu bod y gwledydd hynny wedi “gwneud camgymeriad difrifol.”

Yn ôl y llefarydd, mae honiad Prydain mai Rwsia oedd y tu ôl i’r ymosodiad cemegyn nerfol ar y cyn ysbïwr Sergei Skripal a’i ferch Yulia yn “dwyll” ac yn “bryfociad rhyngwladol.”

Mae’n debyg bod Moscow yn mynnu cael gweld deunyddiau’r ymchwiliad i’r ymosodiad.