Mae arweinydd Gogledd Corea, Km Jong Un, ac Arlywydd De Corea, Moon Jae-in, wedi cytuno i ddod at y bwrdd i drafod am y tro cyntaf mewn dros ddegawd.

Dydi arweinwyr y ddwy Corea ddim wedi dod wyneb yn wyneb ers 2007, ac ers Rhyfel Corea 1950-1953, dim ond dwywaith y mae arweinwyr y ddwy wlad wedi cwrdd.

Un o amcanion y cyfarfod ar Ebrill 27 yw trafod rhaglen arfau niwclear Gogledd Corea, ac i daro bargen a fyddai’n annog y wlad yn cytuno i gefnu arni.

Fe ddaw’r cyhoeddiad yn dilyn cyfarfod rhwng swyddogion o’r ddwy wlad ym mhentref Panmunjom – pentref ar y ffin rhwng y Gogledd a’r De.