Mae’r corff rhyngwladol, NATO, wedi diarddel saith diplomydd o Rwsia, a hynny mewn ymateb i’r ymosodiad a fu yn Salisbury ddechrau’r mis.

Maen nhw hefyd wedi gwrthod cais gan dri diplomydd arall o’r wlad i ymuno â nhw, sy’n golygu bod y nifer o ddiplomyddion Rwsieg sy’n gweithio i’r sefydliad wedi lleihau o 30 i 20.

Mae NATO bellach yn ymuno â 24 o wledydd sydd wedi diarddel dros 130 o ddiplomyddion o Rwsia yn ystod y pythefnos diwethaf.

Daw hyn wrth i nifer gredu mai’r Kremlin oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad a fu yn Salisbury, lle cafodd cyn-ysbiwr o Rwsia a’i ferch eu gwenwyno gan fath o nwy sy’n cael ei gynhyrchu gan y Rwsiaid.

Mae Sergei Skripal a’i ferch, Yulia, yn parhau mewn cyflwr difrifol, ar ôl iddyn nhw gael eu darganfod yn anymwybodol ar fainc yn y dref ar Fawrth 4.

“Anfon neges glir”

Yn ôl Ysgrifennydd Cyffredinol NATO, Jens Stoltenberg, fe fydd y cam hwn yn “anfon neges glir” at Rwsia fod gan ei gweithredoedd “gostau”.

“Beth sydd wedi sbarduno hyn yw’r ymosodiad yn Salisbury,” meddai. “Ond mae hyn yn rhan o ymateb ehangach gan gynghreiriaid NATO i batrwm o agwedd annerbyniol a pheryglus gan Rwsia.”